Hysbyseb – Dirprwy Bennaeth Cynradd
Rhagfyr 2024
Swydd: Dirprwy Bennaeth Cynradd
Pwynt/ Graddfa Cyflog: L5 – L9 (£55,900 - £61,705)
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn amser
Hysbyseb: 13eg o Ragfyr 2024
Dyddiad Cau: 13eg o Ionawr 2025, 9yb
Cyfweliadau: Dyddiad i’w gadarnhau
Swydd i ddechrau: Pasg 2025 neu yn gynt os yn bosib
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Rydym yn edrych am arweinydd rhagorol bydd yn ymrwymo i werthoedd a gweledigaeth yr ysgol ac sydd yn llwyr ymroddedig i les a chynnydd ein disgyblion. Disgwylir i Ddirprwy Bennaeth y Cynradd gydweithio’n agos â Phennaeth y Cynradd wrth lunio cynllun strategol ar gyfer yr ysgol, gwarantu ansawdd yr hyn a gyflawnir ac arwain datblygiadau ac agweddau y Cynradd. Rhaid ymdrechu i sicrhau safonau addysgol a’r ymddygiad uchaf posibl ymysg disgyblion a holl staff y Cynradd. Mae gan y Dirprwy Bennaeth Cynradd rôl holl bwysig i’w chwarae felly fel arweinydd yn ein hysgol bob oed (3-19).
Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.
Os hoffech fwy o fanylion, sgwrs bellach neu ymweld â’r ysgol, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebost - gweler manylion ymgeisio ar gyfer cyfeiriad ebost.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Safeguarding Statement:
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.