Hysbyseb
Arweinydd Pwnc Daearyddiaeth
Medi 2025
Swydd: Arweinydd Pwnc Daearyddiaeth
Pwynt/ Graddfa Cyflog: M2-UPS3 + CAD2d £8218
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn amser
Hysbyseb: 20fed Chwefror 2025
Dyddiad Cau: 14eg o Fawrth 2025 (9yb)
Swydd i ddechrau: 1af o Fedi 2025
Dewch i ymweld
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â’r ysgol ar adeg sy’n gyfleus. Gallwch gwrdd â’r Adran Daearyddiaeth a chael taith o amgylch yr ysgol. Cysylltwch â Emily Denham er mwyn trefnu amser sydd yn gyfleus i chi drwy ffonio'r ysgol neu e-bostio.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Rydym yn edrych am athro ac arweinydd rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion. Yn ddelfrydol, bydd angen bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dysgu TGAU a Lefel A ac â phrofiad o waith maes.
Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.
Adran Ddaearyddiaeth
Mae’r Adran Ddaearyddiaeth yn un llwyddiannus sy’n ymfalchïo mewn canlyniadau TGAU a Safon Uwch arbennig. Mae gan yr Adran ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Mae Daearyddiaeth yn bwnc yn hynod boblogaidd fel opsiwn TGAU a Safon Uwch ac mae tri athro cyfeillgar yn rhan o’r Adran.
Mae’r Adran yn cynllunio gwersi rhyngweithiol sy’n annog brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc, gyda phob aelod yn rhannu eu hadnoddau dysgu er mwyn cynnal y safonau uchaf. Cynigir ystod o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys taith CA3 Arfordiro, taith TGAU a Safon Uwch i Wlad yr Iâ ynghyd â theithiau gwaith maes amrywiol. Mae gan bob aelod o’r adran ystafell ddosbarth ei hun gyda theledu rhyngweithiol.
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebostio.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Safeguarding Statement:
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.