Swydd: Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 3
Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 5 SCP 8-12
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn Amser (32.5awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn)
Hysbyseb: 22ain o Fai 2025
Dyddiad Cau: 5ed o Fehefin 2025 – 9yb
Swydd i ddechrau: Medi 2025
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Os ydych yn chwilio am gyfle i weithio mewn rôl lle mae pob diwrnod yn hollol wahanol gall hyn fod y swydd i chi! Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno ag Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn ein Hadran Cynnal Dysgu. Mae hyn yn rhan o ymgyrch recriwtio felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich cais mor gynted ac sydd phosibl fel nad ydych yn colli’r cyfle!
Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi myfyrwyr ar draws holl gwricwlwm yr ysgol yn hytrach nag mewn un adran benodol.
Yn cyd-weithio gydag athrawon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu profiad dysgu arbennig i’n myfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau.
Dyma gyfle cyffrous i gynnig cefnogaeth yn y dosbarth, ac mewn rhai amgylchiadau tu allan i’r dosbarth, i ddysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion dysgu. Bydd natur y gefnogaeth yn gallu amrywio o gefnogi grwpiau bach i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi myfyrwyr gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un. Mae’r gallu i ddangos empathi tuag at fyfyrwyr sydd ag anawsterau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi dysgwyr. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau yma.
Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol fyfyrwyr a staff, yn barod am sialensiau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu’n bersonol.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg o safon dda, blaengaredd a’r gallu i gyfathrebu’n dda gyda staff dysgu a myfyrwyr. Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio naill a’i llawn (32.5 awr) neu rhan amser. Nodwch y nifer o oriau yr ydych am weithio yn eich datganiad ategol os gwelwch yn dda.
Safeguarding Statement:
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.