Hysbyseb
Derbynnydd – Ysgol Isaf
Swydd: Derbynnydd – Ysgol Isaf
Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 4 Pwynt 5-7 (£25,583-£26,403 pro rata)
Cytundeb: Parhaol
Oriau: 37 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn
Hysbyseb: 9fed Chwefror 2026
Dyddiad Cau: 25ain Chwefror 2026 (9:00yb)
Swydd i ddechrau: Cyn gynted â phosib
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Gweinyddol Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.
Ydych chi’n edrych am gyfle euraidd i weithio mewn ysgol gynhwysol, cefnogol a blaengar?
Bydd y pennaeth a’r staff yn darparu cefnogaeth i’r ymgeisydd a fydd yn dangos ymroddiad o’r safon uchaf i gydweithio’n frwdfrydig gyda nhw, i gynnig y gorau posib i holl blant yr ysgol.
Rydym yn edrych am unigolion:
• sy’n ysbrydoli disgyblion,
• sy’n gynnes, yn gallu dangos empathi a sydd yn ofalgar o eraill,
• sy’n gadarn a theg sy’n modelu arferion da,
• sy’n uchelgeisiol ac yn mwynhau gweithio mewn awyrgylch gefnogol,
• sy’n gallu cyfathrebu a chyd-weithio’n wych fel rhan o gymuned glos yr ysgol,
• sy’n gallu sefydlu a chynnal perthynas bositif gyda’r disgyblion, staff a rhieni,
• sy’n hyderus yn cynnal ymyrraethau i gefnogi dysgu y disgyblion
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu e-bost - gweler manylion ymgeisio ar gyfer cyfeiriad e-bost.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.