ENDING SOON

Cynorthwyydd Dosbarth L3

Employer
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Location
Y Barri, Glamorgan
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
Gradd 5 SCP 8-12 (£26,824-£28,598) Pro Rata
Start Date
1st September 2026
Expires
18th June 2026 09:00 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1558583
Job Reference
YGBM-CD3
Start Date
1st September 2026
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: 32.5awr / 39wythnos, Parhaol
  • Job ID: 1558583

Hysbyseb

Cynorthwyydd Dosbarth – Ysgol Isaf ac Uchaf

Mehefin 2026

Swydd: Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 3

Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 5 SCP 8-12 pro rata

Cytundeb: Parhaol

Oriau: Llawn Amser (32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn)

Hysbyseb: 5ed o Fehefin 2026

Dyddiad Cau: 18fed o Fehefin 2026 – 9yb

Swydd i ddechrau: Medi 2026

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.

Os ydych yn chwilio am gyfle i weithio mewn rôl lle mae pob diwrnod yn hollol wahanol gall hon fod y swydd i chi! Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yr adran Cynnal Dysgu. Mae hyn yn rhan o ymgyrch recriwtio felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted ag sydd bosib fel nad ydych yn colli’r cyfle!

Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi disgyblion ar draws holl gwricwlwm yr ysgol yn hytrach na mewn un adran benodol.

Wrth gyd-weithio gydag athrawon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu profiad dysgu arbennig i’n disgyblion sydd â anawsterau dysgu a/neu anableddau.

Dyma gyfle cyffrous i gynnig cefnogaeth yn y dosbarth, ac mewn rhai amgylchiadau tu allan i’r dosbarth, i ddysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion dysgu. Bydd natur y gefnogaeth yn amrywio o gefnogi grwpiau bach i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi disgyblion gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un. Mae’r gallu i ddangos empathi tuag at ddisgyblion sydd ag anawsterau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.

Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth ac ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi disgyblion. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau hyn.

Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol ddisgyblion a staff, yn barod am sialensiau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu’n bersonol.

Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg o safon dda, blaengaredd a’r gallu i gyfathrebu’n dda gyda staff dysgu a disgyblion. Byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio naill a’i llawn amser (32.5 awr) neu’n rhan amser. Nodwch y nifer o oriau yr ydych am weithio yn eich datganiad ategol os gwelwch yn dda.

Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach am y cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio'r ysgol neu ebostio - gweler manylion ymgeisio ar gyfer cyfeiriad e-bost.

Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg