Cogydd - Ysgol Gynradd Bryncethin

Cyflogwr
Bryncethin Primary School
Lleoliad
Bryncethin, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
31st May 2025
Yn dod i ben
18th Mehefin 2025 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1488891
Cyfeirnod y swydd
17512
Dyddiad cychwyn
31st May 2025
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1488891
Cogydd - Ysgol Gynradd Bryncethin
Disgrifiad swydd
22.5 awr yr wythnos

Amser tymor

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.

Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd Cogydd yn Ysgol Gynradd Bryncethin yn rheoli ac yn cydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid yn ysgol Gynradd Bryncethin ac Ysgol Gynradd Gatholig St Robert.

Byddant yn gyfrifol am ddarparu'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.

Mae Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (darperir hyfforddiant). Mae NVQ 2 neu gyfwerth yn ddymunol.

Bydd yr oriau gwaith rhwng 9.00am a 2.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 07 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Bryncethin Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Bryncethin Primary School

Bryncethin Primary School

Part of Bridgend LA

Bridgend LA