Mae corff Llywodraethu'r ysgol am benodi Pennaeth i’r adran Saesneg, sydd ag arbenigedd i arwain yr addysgu ar draws pob cyfnod allweddol. Rydym yn chwilio am berson sydd â hanes o ardderchogrwydd o ran addysgu, yn gallu ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr ac yn barod i ddatblygu strategaethau blaengar i symud yr adran lwyddiannus yma yn ei blaen eto.
Rydym yn chwilio am athro graddedig gyda’r brwdfrydedd, profiad a’r creadigrwydd i barhau â datblygu’r gwaith da a gyflawnwyd eisoes wrth arwain yr adran Saesneg. Mae gan yr adran gynlluniau gwella pendant ac mae ymdeimlad cryf iawn o waith tîm ymhlith yr aelodau gyda pwyslais cryf ar ddarparu’r profiad dysgu gorau i bob disgybl. Ceir cyfle i addysgu dosbarthiadau ar draws yr ystod oed a gallu ac mae Saesneg yn ddewis poblogaidd ar gyfer Safon Uwch. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau’r ansawdd addysgu gorau ar draws pob cyfnod allweddol yn ogystal â chynnal ac ymestyn ystod o weithgareddau allgyrsiol o fewn adran gynhaliol a blaengar.
Rydym yn gallu cynnig:
• y cyfle i arwain disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar
• y cyfle i arwain yr adran Saesneg sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.
• y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol a thalentog sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
• y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa bellach o fewn yr ysgol.
Os ydych chi’n berson sydd yn meddu ar y rhinweddau rydym ni yn chwilio amdanynt, byddem yn falch iawn i glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â rheolwr busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard am fanylion pellach.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 29ain o Ionawr 2024 am 12:00y.h.
Rhestr fer: Dydd Llun 29ain o Ionawr 2024
Cyfweliadau: I'w cadarnhau
Graddfa gyflog: CDA 1A
Dyddiad dechrau: 1af o Fedi 2024
Datganiad Diogelu:
Within Swansea Council there is a "Safeguarding is Everybody's Business" principle, and this applies to all Swansea Council employees, elected members, volunteers and contractors. Further details can be found at https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguardin