Mae corff Llywodraethu'r ysgol am benodi Pennaeth i’r adran Dylunio a Thechnoleg. Rydym yn chwilio am berson sydd â hanes o ardderchowgrwydd o ran addysgu, yn gallu ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr ac yn barod i ddatblygu strategaethau blaengar i symud yr adran yma yn ei blaen.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes graddedig gyda’r weledigaeth, brwdfrydedd, profiad, egni a’r dychymyg i hyrwyddo profiadau gwych yn y pwnc wrth arwain. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu’r pwnc ar draws cyfnodau allweddol 3 a 4, i atgyfodi cyrsiau ôl-16 a datblygu ystod o weithgareddau a chyfleoedd allgyrsiol o fewn yr adran. Mae’n gyfle gwych i arweinydd ddatblygu profiadau DT ym Mryn Tawe.
Mae gan yr adran adnoddau o’r radd flaenaf mewn 3 gweithdy pwrpasol, ystafell dechnoleg bwyd ac ystafell dechnoleg gwybodaeth benodol er mwyn addysgu’r pwnc. Mae’r adran yn llwyddiannus yn cynnig cyrsiau DT Gwrthiannol ac Arlwyo TGAU, yn ogystal â chwrs Adeiladwaith poblogaidd. Byddem yn ystyried lwfans recriwtio a chadw ychwanegol ar gyfer ymgeisydd â’r profiad perthnasol o arwain adran yn llwyddiannus.
Rydym yn gallu cynnig:
• y cyfle i arwain disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar;
• y cyfle i arwain unigolion o fewn yr adran Adran sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu;
• y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion;
• y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa bellach o fewn yr ysgol.
Os ydych chi’n berson sydd yn meddu ar y rhinweddau rydym ni yn chwilio amdanynt, byddem yn falch iawn i glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â Rheolwr Busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard am fanylion pellach.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10fed o Ebrill am 12:00y.h.
Graddfa cyflog: Prif raddfa gyflog; CDA 2B
Datganiad Diogelu:
Within Swansea Council there is a "Safeguarding is Everybody's Business" principle, and this applies to all Swansea Council employees, elected members, volunteers and contractors. Further details can be found at https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguardin