Athro/awes Mathemateg

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Lleoliad
Penlan, Swansea (Remote working)
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
PRG
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
4th Chwefror 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1530615
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Cyfeirnod y swydd
YGG BRYN TAWE
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • Hyd y contract: Dros dro/posibrwydd parhaol
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1530615

Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Mathemateg ar draws CA 3+4, gyda chyfle i ymgeisydd â’r profiad addas i gyfrannau at gyrsiau Safon Uwch.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau rhifedd a meddwl dwfn disgyblion, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â’r cyfle i gyfrannu’n helaeth at ddatblygu rhifedd ein disgyblion, yn uniongyrchol a thrwy gefnogi athrawon eraill ar draws yr ysgol.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

• y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar

• y cyfle i weithio o fewn yr Adran Mathemateg sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.

• y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

• datblygiad gyrfa bellach o fewn yr adran a’r ysgol.

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 4ydd Chwefror 2026

Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog

Telerau’r swydd: Llawn amser.

Dyddiad Dechrau: 1af o Fedi 2026

Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais drwy e-bost yn uniongyrchol at Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol erbyn y dyddiad cau uchod.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Yng nghyngor Abertawe, mae’r egwyddor “diogelu’n fusnes i bawb” yn berthnasol i bawb boed nhw’n weithwyr, yn aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Ceir mwy o fanylion ar https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding