Athro Mathemateg / Gwyddoniaeth

School
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Location
Penlan, Swansea
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
PRG
Start Date
1st September 2024
Expires
8th April 2024 12:00 PM
Contract Type
Permanent
Job ID
1409859
Suitable for
ECT (NQT) Graduates
Job Reference
YGG BRYN TAWE
Start Date
1st September 2024
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: PARHAOL
  • Suitable for: ECT (NQT) Graduates
  • Job ID: 1409859

Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth ar draws CA 3+4, gyda chyfle i ymgeisydd â’r profiad addas i gyfrannau at gyrsiau Safon Uwch.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau rhifedd a meddwl dwfn disgyblion, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â’r cyfle i gyfrannu’n helaeth at ddatblygu rhifedd ein disgyblion, yn uniongyrchol a thrwy gefnogi athrawon eraill ar draws yr Ysgol.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

• y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar

• y cyfle i weithio o fewn y Adrannau Mathemateg a Gwyddoniaeth sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.

• y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

• datblygiad gyrfa bellach o fewn y ddwy Adran a’r ysgol.

Dyddiad Cau: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024 am 12:00y.h.

Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog - fe ystyrir cydnabyddiaeth Recriwtio a Chadw ar gyfer ymgeisydd a’r profiad perthnasol

Telerau’r swydd: Llawn amser.

Dyddiad Dechrau: 1af o Fedi 2024

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe