Athro TGCh/DT

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Lleoliad
Penlan, Swansea
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Prif raddfa gyflog
Dyddiad cychwyn
26th January 2026
Yn dod i ben
9th Chwefror 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1531387
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Cyfeirnod y swydd
TGDT
Dyddiad cychwyn
26th January 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: Cyfnod Mamolaeth - Un Tymor
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1531387

Swydd TGCh/DT (Cyfnod Mamolaeth)

Mae Corff Llywodraethu'r ysgol am benodi athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adrannau llwyddiannus yn yr ysgol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu TGCh a / neu Dylunio a Thechnoleg ar draws bob cyfnod allweddol, gan gyfrannau at hybu cyrsiau TGAU a Safon Uwch.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau gydol oes, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

• y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar;

• y cyfle i weithio o fewn Maes Dysgu a Phrofiad sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu;

• y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

• y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa bellach o fewn yr Adran a’r ysgol.

Dyddiad Cau: 9fed o Chwefror 2026 am 12yp

Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog

Telerau’r swydd: Llawn amser am dymor yn unig. Cytundeb Cyfnod Mamolaeth.

Dyddiad dechrau: 2il o Fawrth 2026

Datganiad Diogelu:

Yng nghyngor Abertawe, mae’r egwyddor “diogelu’n fusnes i bawb” yn berthnasol i bawb boed nhw’n weithwyr, yn aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Ceir mwy o fanylion ar https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding