ATHRO/AWES ADDYSG GORFFOROL

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Lleoliad
Penlan, Swansea
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
PRG
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
Yn dod i ben
12th Mai 2025 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1479850
Cyfeirnod y swydd
YGG BRYN TAWE
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1479850

Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Rydym yn chwilio am athro i ddarparu profiadau cyfoethog Addysg Gorfforol yn yr ysgol. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu ar draws pob cyfnod allweddol, gan gyfrannu at gyrsiau TGAU a Safon Uwch Addysg Gorfforol a chyrsiau Chwaraeon galwedigaethol.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer sicrhau dyfodol llwyddiannus.

Rydym yn gallu cynnig:

y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.

y cyfle i weithio o fewn Adran Addysg Gorfforol a MDaPh Iechyd a Lles, sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant a lles pob disgybl o bob gallu.

y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa pellach o fewn yr adran a’r ysgol.

Dyddiad Cau: Dydd Llun 12fed o Fai 2025 12y.p

Cyfweliadau: i’w gadarnhau

Graddfa cyflog: Prif raddfa gyflog

Telerau’r swydd: cytundeb llawn amser (ystyrir geisiadau rhan amser 0.8 i ymgeiswyr addas) 

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Yng nghyngor Abertawe, mae’r egwyddor “diogelu’n fusnes i bawb” yn berthnasol i bawb boed nhw’n weithwyr, yn aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Ceir mwy o fanylion ar https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding