NEW

Athro/awes Addysg Gorfforol

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Lleoliad
Penlan, Swansea
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Prif raddfa gyflog
Dyddiad cychwyn
23rd February 2026
Yn dod i ben
9th Rhagfyr 2025 11:59 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1519469
Cyfeirnod y swydd
AddGorff11/2025
Dyddiad cychwyn
23rd February 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1519469

Athro/awes Addysg Gorfforol

Rydym yn chwilio am athro/awes ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Rydym yn chwilio am athro i ddarparu profiadau cyfoethog Addysg Gorfforol i ddisgyblion yr ysgol. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu ar draws pob cyfnod allweddol, i ferched yn bennaf, gan gyfrannu at gyrsiau TGAU a Safon Uwch Addysg Gorfforol a chyrsiau Chwaraeon galwedigaethol.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer sicrhau dyfodol llwyddiannus.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

· y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.

· y cyfle i weithio o fewn Adran Addysg Gorfforol a MDaPh Iechyd a Lles, sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant a lles pob disgybl o bob gallu.

· y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

· y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa pellach o fewn yr adran a’r ysgol.

Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 9 fed o Ragfyr am 12:00y.h.

Cyfweliadau: I’w cadarnhau

Graddfa cyflog: Prif raddfa gyflog

I ddechrau cyn gynted a phosib ar ol hanner tymor Chwefror 2026.

Datganiad Diogelu:

Yng nghyngor Abertawe, mae’r egwyddor “diogelu’n fusnes i bawb” yn berthnasol i bawb boed nhw’n weithwyr, yn aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Ceir mwy o fanylion ar https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding