Athro/awes Addysg Gorfforol
Rydym yn chwilio am athro/awes ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Rydym yn chwilio am athro i ddarparu profiadau cyfoethog Addysg Gorfforol i ddisgyblion yr ysgol. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu ar draws pob cyfnod allweddol, i fechgyn yn bennaf, gan gyfrannu at gyrsiau TGAU a Safon Uwch Addysg Gorfforol a chyrsiau Chwaraeon galwedigaethol.
Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer sicrhau dyfodol llwyddiannus.
Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.
Rydym yn gallu cynnig:
· y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.
· y cyfle i weithio o fewn Adran Addysg Gorfforol a MDaPh Iechyd a Lles, sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant a lles pob disgybl o bob gallu.
· y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
· y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa pellach o fewn yr adran a’r ysgol.
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 9fed o Ragfyr am 12:00y.h.
Cyfweliadau: I’w cadarnhau
Graddfa cyflog: Prif raddfa gyflog
Telerau’r swydd: cytundeb llawn amser, dros dro tan diwedd tymor yr Haf 2026, gyda'r posibilrwydd o fod yn barhaol i'r ymgeisydd addas. I ddechrau cyn gynted a phosib ar ol hanner tymor Chwefror 2026
Within Swansea Council there is a "Safeguarding is Everybody's Business" principle, and this applies to all Swansea Council employees, elected members, volunteers and contractors. Further details can be found at https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguardin