Rydym yn awyddus i apwyntio Cyfathrebydd BSL drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn yr ysgol. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol .
Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe.
Prif ddiben y rôl yw darparu cymorth dehongli a chyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i sicrhau bod dysgwyr byddar yn cael mynediad cyfartal at y cwricwlwm, yn gymdeithasol ac yn academaidd. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynllunio ac ymgymryd â gweithgareddau cefnogi dysgu sy'n berthnasol i anghenion y dysgwr byddar; cyd-gysylltu â staff ysgol, rhieni, asiantaethau allanol a chydweithwyr eraill i sicrhau bod strategaethau dysgu effeithiol yn cael eu rhoi ar waith; a chyfrannu at gynllun cefnogi dysgu unigol i'r dysgwr.
Rydym yn benodol yn edrych am unigolyn sydd â’r cymwysterau ysgolion uwchradd rhaid meddu ar o leiaf gymhwyster Lefel 3 BSL gyda pharodrwydd i weithio tuag at Lefel 4 BSL. Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bwysig, ac rydym yn annog Cyfathrebwyr BSL i barhau i ddatblygu eu rhuglder BSL. Mae’n rôl allweddol i sicrhau cefnogaeth i’n disgyblion i gyd i fod y gorau allant fod ac i gyrraedd eu potensial.
Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer ei holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal a sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.
Dyddiad Dechrau: Dyddiad i’w gadarnhau
Cyflog: Graddfa Cyflog 6
Cytundeb: 30awr amser tymor yn unig
Dyddiad cau: 11.05.2026 12 y.p.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Within Swansea Council there is a "Safeguarding is Everybody's Business" principle, and this applies to all Swansea Council employees, elected members, volunteers and contractors. Further details can be found at https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguardin