CYFATHREBYDD o DAN HYFFORDDIANT DRWY GYFRWNG Y GYMREAEG YN YSGOL GYFUN GYMRAEG BRYN TAWE

Employer
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Location
Penlan, Swansea
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
Graddfa 4
Start Date
As Soon As Possible
Expires
17th June 2026 11:59 PM
Contract Type
Permanent
Job ID
1557870
Job Reference
YGG BRYN TAWE
Start Date
As Soon As Possible
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: PARHAOL
  • Job ID: 1557870

Rydym yn awyddus i apwyntio Cyfathrebydd BSL O DAN HYFFORDDIANT drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn yr ysgol. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol .

Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe.

Prif ddiben y rôl yw darparu cymorth dehongli a chyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i sicrhau bod dysgwyr byddar yn cael mynediad cyfartal at y cwricwlwm, yn gymdeithasol ac yn academaidd. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynllunio ac ymgymryd â gweithgareddau cefnogi dysgu sy'n berthnasol i anghenion y dysgwr byddar; cyd-gysylltu â staff ysgol, rhieni, asiantaethau allanol a chydweithwyr eraill i sicrhau bod strategaethau dysgu effeithiol yn cael eu rhoi ar waith; a chyfrannu at gynllun cefnogi dysgu unigol i'r dysgwr.

Rydym yn benodol yn edrych am unigolyn sydd â’r brwdfrydedd i gymhwyso i o leiaf gymhwyster Lefel 3 BSL gyda pharodrwydd i weithio tuag at Lefel 4 BSL. Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bwysig, ac rydym yn annog Cyfathrebwyr BSL i barhau i ddatblygu eu rhuglder BSL. Mae’n rôl allweddol i sicrhau cefnogaeth i’n disgyblion i gyd i fod y gorau allant fod ac i gyrraedd eu potensial.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer ei holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal a sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Dyddiad Dechrau: Dyddiad i’w gadarnhau 

Cyflog: Graddfa Cyflog  4 o dan hyfforddiant a newid i raddfa 6 wedi cymhwyso

Cytundeb: 30 awr amser tymor yn unig

Dyddiad cau: 17.05.2026

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon. 

Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi. 

Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at:  

Mrs Eirian Leonard/Miss Tennille McCord, Rheolwr Busnes/Is Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe


 

Attachments

Safeguarding Statement:

Within Swansea Council there is a "Safeguarding is Everybody's Business" principle, and this applies to all Swansea Council employees, elected members, volunteers and contractors. Further details can be found at https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguardin
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe