Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Technegydd Cymorth TG i swydd llawn amser (37 awr yr wythnos am 39 wythnos, Gradd 5) yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe. Mae hwn yn gytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf, ond mae potensial cryf i ymestyn hwn i gytundeb parhaol. Byddai ymgeisydd addas yn un sydd â phrofiad blaenorol a’r potensial i gynyddu cyfrifoldebau yn yr ysgol.
Mae'r ysgol wedi elwa o fuddsoddiad helaeth mewn adnoddau gyda datblygiadau cyffrous ar y gorwel sy’n cynnwys adeiladau newydd yn y blynyddoedd nesaf.
Mae’r Adran TG yn adran brysur sy’n cefnogi pob agwedd ar ddefnydd TGCh yr ysgol a thechnolegau cysylltiedig. Bydd cyfrifoldebau eraill yn cynnwys gosod a ffurfweddu offer a datrysiadau newydd ynghyd ag uwchraddio systemau presennol, cefnogi'r platfform dysgu cenedlaethol (HWB), a darparu hyfforddiant sylfaenol yn ôl gofynion staff addysgu a chymorth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau cefnogaeth tîm staff agos ac effeithiol. Bydd ef / hi yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr TGCh, a Phennaeth Cymhwysedd TGCh / Digidol yn ogystal â thîm effeithiol o staff cymorth a gweinyddol yn yr ysgol. Mae’r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng Cymraeg yn hanfodol yn y swydd hon.
Os hoffech gael mwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth Cynorthwyol Mrs Nerys Vaughan.
Proses ymgeisio
Gallwch wneud cais am y swydd hon trwy ffurflen gais a llythyr yn amlinellu'ch sgiliau a'ch profiad sy'n berthnasol i'r swydd hon. Gallwch gynnwys eich profiadau perthnasol yn ogystal â'ch gweledigaeth am y ffyrdd y gallech chi gyfrannu at fywyd yr ysgol fel cymuned ddysgu.