Cynllun Recriwtio Athrawon Uwchradd (mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored)

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Lleoliad
Penlan, Swansea
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn, Rhan-amser
Cyflog
Prif raddfa gyflog
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
11th Chwefror 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1532342
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Cyfeirnod y swydd
RAU
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: 2 flynedd
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1532342

Cynllun Recriwtio Athrawon Uwchradd

(mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored)

Swydd: Athro / Athrawes

Graddfa Gyflog Athrawon

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi person sydd â diddordeb mewn gyrfa fel athro/awes yn y sector uwchradd fel rhan o gynllun Tystysgrif Addysg Uwchradd gyda’r Brifysgol Agored.

Croesawn geisiadau gan raddedigion newydd, ond mae hwn hefyd yn gyfle cyffrous i newid cyfeiriad gyrfa ac ymuno gyda proffesiwn uchel ei barch mewn ysgol sydd yn hyrwyddo egwyddorion dysgu gydol oes.

Bwriad y cynllun yw recriwtio athrawon o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe am gyfnod o ddwy flynedd gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd.

Gwahoddwn geisiadau gan bobl frwdfrydig a blaengar sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol gyfun cyfrwng Gymraeg o fewn y maes pynciol Mathemateg.

Nid yw’n angenrheidiol eich bod wedi graddio yn y maes pynciol yn uniongyrchol, ond disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi graddio o fewn pwnc neu faes sy’n berthnasol i’r meysydd pynciol uchod.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau dwyieithrwydd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae ein staff gweithgar a thalentog yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Mae’r cynllun yma yn cynnig dwy flwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Agored, byddwch yn derbyn cefnogaeth i hyfforddi fel athro yn y sector uwchradd a cyn derbyn statws athro cymwysedig ar ddiwedd y cwrs.

O ran datblygiad gyrfa, bydd yna gyfleoedd i gynyddu’ch cyflog drwy arwain ar agweddau o fywyd yr Ysgol a chofier fod y proffesiwn newydd dderbyn codiad cyflog sylweddol i adlewyrchu gofyunio y proffesiwn.

Bydd ffocws clir yn ystod yr hyfforddiant ar addysgu gyda phwyslais ar y canlynol:

Addysgeg

 Cynllunio gwersi

 Asesu, marcio ac adborth

 Rheolaeth ddosbarth

 Ymchwil

 Sgiliau ieithyddol a sesiynau gloywi iaith (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn)

Bydd gennych Fentor Pynciol a Chydlynydd Ysgol i’ch cefnogi yn ogystal â thiwtor pynciol a chwricwlwm (gyda’r Brifysgol Agored) er mwyn eich cefnogi yn broffesiynol. Yn ogystal â hyn, bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd yn awyddus i:

weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.

 weithio mewn ysgol sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.

 weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

 ddatblygiad gyrfa bellach

Nodwyd bod y cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Eisoes, mae’r ysgol wedi profi llwyddiant yn y cynllun yma gyda chyn-ddisgyblion ac athrawon newydd i'r proffesiwn sydd bellach yn aelodau o staff dysgu yr ysgol. Croeso mawr i chi gael sgwrs gyda’r staff yma fel rhan o’r broses ymgeisio.       

Datganiad Diogelu:

Yng nghyngor Abertawe, mae’r egwyddor “diogelu’n fusnes i bawb” yn berthnasol i bawb boed nhw’n weithwyr, yn aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Ceir mwy o fanylion ar https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding