Swydd Athro Dyniaethau/ Addysg Grefyddol

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Lleoliad
Penlan, Swansea
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
PRG
Dyddiad cychwyn
1st January 2026
Yn dod i ben
7th Tachwedd 2025 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1515158
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Cyfeirnod y swydd
YGG BRYN TAWE
Dyddiad cychwyn
1st January 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1515158

Athro Addysg Grefyddol / Dyniaethau

Mae Corff Llywodraethu'r ysgol am benodi Athro Dyniaethau / Addysg Grefyddol. Rydym yn chwilio am berson sydd yn athro rhagorol, yn gallu ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr, yn uchelgeisiol ac yn barod i ddatblygu strategaethau blaengar i gyfrannu at adran lwyddiannus. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Dyniaethau a chyfrannu at wersi Addysg Grefyddol yng NghA 3, 4 a 5.

Ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Rydym wedi ein lleoli ar gyrion Dinas Abertawe, yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Rydym yn gallu cynnig:

• y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar

• y cyfle i weithio o fewn Adran hynod lwyddiannus, sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.

• y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 7fed o Dachwedd 12 y.h..

Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog

Telerau’r swydd: Llawn amser. Cytundeb parhaol i ymgeisydd sydd a’r medrau a’r profiad addas.

Dyddiad dechrau: 1af o Ionawr 2026

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Yng nghyngor Abertawe, mae’r egwyddor “diogelu’n fusnes i bawb” yn berthnasol i bawb boed nhw’n weithwyr, yn aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Ceir mwy o fanylion ar https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding