Rydym yn edrych i apwyntio swyddog i dîm bugeiliol yr ysgol, i ddechrau cyn gynted â phosib. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm bugeiliol profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion ar draws CA3 a 4.
Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â’r angerdd, y gallu neu’r profiad a’r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rhwystrau i’w dysgu.
Mae’r rol yma, yn gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, mae rol yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae’r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion.
Sut i Ymgeisio:
Dyddiad Cau cyflwyno cais: Dydd Llun 29ain o Fedi 2025
Cyflog: Graddfa Cyflog 6 Pro Rata amser tymor yn unig
Cytundeb: parhaol 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.
Bydd y swydd yn amodol ar wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at: Mrs Eirian Leonard a Miss Lynwen Matthews , Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais erbyn: Dydd Llun 29ain o Fedi 2025am 12yh
Mae’r awdurdod yn unol â’r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Mae’r Awdurdod yn disgwyl i bawb o’r staff ymgymered â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf amdano.