Mae corff Llywodraethu yr ysgol am apwyntio ‘Ymarferydd Arweiniol’ gyda’r gallu i ddysgu Gwyddoniaeth (Cemeg neu Ffiseg) hyd at safon Uwch. Bydd gan y person yma hanes o ardderchogrwydd mewn addysg, bydd yn gallu ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr ac yn barod i ddatblygu strategaethau dysgu blaengar i wella safonau disgyblion. Rydym am i’r person a benodir ddechrau ym mis Medi 2020.
Ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer ei holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.
Bydd yr Ymarferydd Arweiniol Gwyddoniaeth yn:
• ymarferydd rhagorol â phrofiad o ysbrydoli disgyblion o bob gallu i gyrraedd safonau uchel yn gyson.
• athro Gwyddoniaeth (Bioleg neu Ffiseg) rhagorol, sydd yn darparu addysgu rhagorol, gyda'r canlyniadau i'w brofi; sy'n uchelgeisiol ac yn llawn cymhelliant i arwain eraill ar agweddau o addysgu a dysgu yn yr ysgol.
• gwneud popeth posibl i godi ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn yr Adrannau / MDaPh cyswllt yn ogystal ag ymuno â'r tîm ymchwil sydd yn arwain addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.
• gwneud popeth posibl i godi ansawdd yr addysgu a'r dysgu ar draws yr ysgol ac yn uniongyrchol gyda'r bobl y maent yn cyd-weithio gyda hwy.
• cefnogi’r Uwch Dîm Arwain i greu diwylliant o welliannau cyson a bod yn arweinydd ysbrydoledig, wedi ymrwymo i’r cyflawniadau uchaf i bawb ym mhob maes o waith yr ysgol.
• unigolyn gyda’r safonau a’r disgwyliadau uchaf o ran cyflawniad ac ymddygiad ar gyfer pob disgybl yn yr ysgol.
• gweithio i oresgyn unrhyw rwystrau dysgu; yn angerddol dros welliant parhaus yr ysgol ac yn gweithredu’n deg ac yn gyson gyda disgyblion a staff yr ysgol yn ddyddiol.
• rhoi blaenoriaeth i ddatblygu’r Gymraeg yn iaith fyw ymysg disgyblion a’u rhieni.
• gyfathrebwr arbennig fydd yn ysbrydoli disgyblion, rhieni a holl randdeiliaid yr ysgol
• ymrwymedig i ddatblygu ymhellach ac adeiladu ar bartneriaethau presennol gyda’n teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.
Os ydych chi’n berson sydd yn meddu ar y rhinweddau rydym ni yn chwilio amdanynt, byddem yn falch iawn i dderbyn llythyr cais (heb fod yn fwy na dwy ochr A4) gennych yn amlinellu’ch:
1. gweledigaeth i wella dysgu o fewn yr ysgol;
2. profiad a’r rhesymau pam y byddech yn gallu gwireddu’r weledigaeth yma.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fanylion pellach y rôl.
Graddfa cyflog arweinyddiaeth: L5-L8
Dyddiad Cau: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024 am 12:00 y.h.
Rhestr fer: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024
Cyfweliadau: I’w cadarnhau
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.