Mae Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Dinbych yn dymuno penodi unigolyn hyblyg, gweithgar a brwdfrydig i ymuno â'n tîm.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ac yn cynorthwyo disgyblion i gyflawni gweithgareddau penodol o fewn rhaglenni gwaith a gytunwyd arnynt. Bydd gan ymgeiswyr sgiliau rheoli dosbarth ardderchog a’r gallu i annog, tanio brwdfrydedd disgyblion ac ymgysylltu â nhw.
Penodir yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, geirdaon boddhaol a chofrestru â’r Cyngor Gwaith Addysg.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Denbigh High School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.