Mae Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Dinbych yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'r tîm sy'n cefnogi disgyblion penodol, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig / ymddygiadol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith i alluogi mynediad i ddysgu ar gyfer disgyblion, bydd hyn yn cynnwys cefnogi grwpiau bach o ddisgyblion CA3 a CA4 mewn sesiynau dal i fyny gyda gwaith.
Penodir yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, geirdaon boddhaol a chofrestru â’r Cyngor Gwaith Addysg.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Denbigh High School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.