Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes ddeinamig ac ysbrydoledig ar gyfer Addysg Grefyddol dros gyfnod mamolaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu cwricwlwm AG i ddosbarthiadau Cyfnod Allweddol 3 drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i addysgu gwersi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5.
Mae’r Corff Llywodraethu wedi ymrwymo i benodi ymgeisydd llwyddiannus sy’n:
- arbenigwr brwd yn y pwnc, sy’n cyflwyno gwersi rhagorol yn gyson
- angerddol am ysbrydoli, herio, cefnogi a chymell ein disgyblion
- hyderus yn cyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg
- profiadol o ran addysgu AG drwy gyfrwng y Gymraeg
- barod i ymroi’n llawn i wireddu gweledigaeth Ysgol Dyffryn Aman ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru
Yn ein tro gallwn gynnig:
- Corff Llywodraethu, staff addysgu a staff cefnogi ymroddedig
- Disgyblion brwdfrydig ac ysgogol
- Ethos gofalgar lle mae pob unigolyn yn cael ei wert hfawrogi
- Amgylchedd cynnes, croesawgar a chyfeillgar
Mae Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth am yr Ysgol
Mae Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol uwchradd lwyddiannus a ffyniannus Categori 2B, wedi’i lleoli ar ymyl Bannau Brycheiniog yng Nghaerfyrddin. Rydym yn ysgol 11–18 sydd wedi gweld twf iach yn ein niferoedd disgyblion yn ddiweddar, gyda thua 1500 o ddisgyblion, gan gynnwys dros 200 o fewn ein chweched dosbarth deinamig.
Gwybodaeth am y rôl
Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous a phwysig ar gyfer darpariaeth addysg yn Ysgol Dyffryn Aman, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn dymuno cefnogi’r ysgol i sicrhau canlyniadau rhagorol yn gyson i’n disgyblion.
Mae Ysgol Dyffryn Aman yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.