Gwahoddir ceisiadau gan Athro / Athrawes Gymraeg ar gyfer Medi 2025. Croeso i athrawon profiadol ac ANG i yrru ceisiadau. Mae’r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi athro / athrawes brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’r Gyfadran Gymraeg;
* Bod yn athro / athrawes effeithiol ac arloesol gyda’r gallu i ddysgu Cymraeg yn CA3 & CA4;
* Brwdfrydedd ac angerdd tuag at yr Iaith Gymraeg a’r gallu i ysgogi’r disgyblion.
* Ymrwymo i sicrhau lles pob plentyn a chyfoethogi eu bywydau.
* Bod yn hunan ysgogedig ac yn ysbrydoliaeth i’r disgyblion a chydweithwyr.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r swydd yw 12:00 ar ddydd Gwener 9fed o Mai 2025.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Friars yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.