CYDLYNYDD CYFLENWI / GWEINYDDIAETH GYFFREDINOL
Cyflog: GS4 (7 i 11) pro rata.
Oriau: 32.5 awr yn tymor ysgol yn unig.
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sy'n 38 wythnos o dymor ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sy'n barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar.
Graddfa Tâl: Telir tâl yn unol â'r Amodau Gwaith i Weithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4, pwyntiau 7 - 11 yn ôl profiad a chymhwyster.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd â chadarnhad o gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant ymgymryd â'r swydd hon.
DYDDIAD CAU: 10.00y.b, DYDD MERCHER, 29/04/2026.
Mae Ysgol Friars yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.