Ysgol Friars yn bwriadu ehangu ei thîm o oruchwylwyr arholiadau yn barod ar gyfer y gyfres arholiadau sy'n dechrau ar Tachwedd 3ain 2025. Wedi hynny bydd gwaith ar gael ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn academaidd trwy drefniant, ac felly mae hyblygrwydd sylweddol ar gael.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â chyfnod o hyfforddiant ar gyfer y rôl, ac o ganlyniad, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.
Cyflog (GS1(2)): £12.26 yr awr
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner Dydd, Dydd Mawrth, 23ain o Medi 2025
Dyddiad cychwyn yn y swydd: Mai 1af 2025 neu mor fuan â phosibl ar ôl hynny
Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol
Mae Ysgol Friars yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.