PENNAETH BLWYDDYN
Swydd Barhaol.
Ymunwch â’n Tîm Bugeiliol
Mae Ysgol Friars yn chwilio am unigolyn ymroddedig, gofalgar a rhagweithiol i ymuno â’n tîm fel Pennaeth Blwyddyn.
Mae hon yn rôl allweddol o fewn cymuned yr ysgol, gan gyfrannu’n uniongyrchol at les, diogelwch a chynnydd ein dysgwyr. Bydd y Pennaeth Blwyddyn yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol â disgyblion ac yn gweithio’n agos gyda staff, rhieni/gofalwyr ac asiantaethau mewnol ac allanol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ffynnu. Nid yw hon yn swydd addysgu ac nid oes cyfrifoldeb am gynllunio na chyflwyno gwersi.
Pam ymuno â ni?
Mae rôl Pennaeth Blwyddyn yn cynnig cyfle gwerthfawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein dysgwyr. Byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy’n gweithio gyda’i gilydd i greu amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol lle gall pob disgybl gyflawni ei botensial.
Os ydych yn unigolyn gofalgar, gwydn a brwdfrydig sydd â’r sgiliau a’r ymrwymiad i gefnogi ein pobl ifanc, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae Ysgol Friars yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.