ADDYSG
HYSBYSEB SWYDD
Yn eisiau: ar gyfer 1af o Fedi 2026
PENNAETH
YSGOL FRIARS, BANGOR
(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)
Grŵp Ysgol: 7
Pwyntiau Cyflog: L32 – L38
Cyflog: £112,832 - £130,696
Mae Ysgol Friars yn anelu at gyflwyno addysg o’r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o’i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
• Yn arweinydd cryf, cadarn a brwdfrydig
• Yn meddu ar sgiliau rheolaeth rhagorol
• Yn meddu ar y sgiliau i ysgogi ac ysbrydoli disgyblion yr ysgol.
• Yn gwbl ymrwymedig i ethos Gymreig yr ysgol ac i addysg ddwyieithog gyflawn o’r safon uchaf.
• Yn meddu ar y cymhwyster CPCP (NPQH) erbyn dyddiad dechrau’r swydd neu sydd eisoes mewn swydd barhaol fel Pennaeth.
• Yn ymrwymedig i lwyddiant parhaol yr ysgol ac a’r gallu i gymell staff a disgyblion.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Dyddiadau ymweld â’r ysgol: 13/01/2026 am 9.30yb neu 15/01/2026 am 4.00yp
Dyddiad cau: 12:00, 20/01/2026
Dyddiad llunio rhestr fer: 21/01/2026
Dyddiadau’r cyfweliadau: 26 - 27/01/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y bod modd iddynt gychwyn yn y swydd yma.
(This is an advertisement for a Headteacher at Ysgol Friars for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.)
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Mae Ysgol Friars yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.