ATHRO/AWES MATHEMATEG AC AIL YN Y GYFADRAN
SWYDD BARHAOL
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster ynghyd a lwfans Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu 2 (£6,175 y flwyddyn)
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 10FED O EBRILL, 2026.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Mae Ysgol Friars yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.