Athro/Athrawes Arbenigol y Ganolfan Adnoddau Arbenigol, Canolfan Ethni
CAD: ADY1
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro arbenigol yng Nghanolfan Ethni (Canolfan Adnoddau Arbenigol) yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dyma gyfle unigryw i ymuno ag ysgol a chanolfan lwyddiannus iawn o fewn ein Prifddinas sydd ag enw da o fewn ei chymuned ac sy’n gyson ei darpariaeth safonol cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc yr ardal. Mae hon yn gyfle arbennig i ymuno a grŵp o staff prysur, brwdfrydig ac egnïol a gyda thîm ADY ardderchog sy’n gweithio’n galed i sicrhau’r gefnogaeth orau i holl ddisgyblion a chymuned yr ysgol. Mae buddsoddiad sylweddol ar y gweill i drawsnewid ein darpariaeth a gwahoddwn unigolion egniol sydd â gweledigaeth gref am addysg gynhwysol i ymuno â ni mewn cyfnod mor gyffrous.
Mae Canolfan Ethni wedi ei sefydlu’n gadarn iawn ac yn darparu cefnogaeth addysgol a bugeiliol o’r radd flaenaf i’r 38 disgybl 11-19mlwydd oed sydd ag anghenion addysgol arbenigol / cymleth. Datblygiad newydd yw ehangu ar ein darpariaeth ym maes awtistiaeth, ble mae nifer o ddisgyblion wedi ymuno a ni er mwyn derbyn cefnogaeth o fewn y Ganolfan yn ogystal a derbyn gwersi o fewn y prif ffrwd. Yn benodol dyma Ganolfan fywiog, fyrlymus, llawen a chroesawgar sydd wrth galon cymuned Glantaf. Mae naws greadigol, ofalgar a chynhaliol yr adran yn pefrio drwy ei gweithgaredd, a’i disgyblion yn mwynhau trawsdoriad eang o brofiadau unigol a chyfoethog ochr yn ochr â disgyblion eraill Glantaf.
Mae’r anghenion a’r gefnogaeth angenrheidiol yn amrywiol ac felly edrychwn am athro i arwain a chyfrannu i’r maes arbenigol hwn gyda egni, creadigrwydd ac empathi. Mae’r ysgol yn frwd i’ch cefnogi i hyfforddi ymhellach ac i ymchwilio ac arloesi yn y maes er mwyn cryfhau darpariaeth a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes. Braf fydd gweld ein darpariaeth yn aeddfedu ac ymestyn gan weithio gyda chanolfannau arbenigol eraill o fewn y ddinas.
Fis Ionawr nesaf byddwn yn symud i mewn i’n canolfan newydd 21ain Ganrif ar y campws. Bydd hyn yn trawsnewid darpariaeth Canolfan Ethni a byddwn yn mwynhau gweithio mewn canolfan bwrpasol fodern gydag adnoddau arbenigol i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer ein dysgwyr. Dyma gyfle unigryw i ymuno â ni mewn cyfnod arloesol a chyffrous ac wrth i ni lunio ein darpariaeth arbenigol ar gyfer y genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.
Edrychwn am unigolyn gweithgar a chadarnhaol i gamu i’r rôl hon o fewn cymuned yr ysgol. Byddwn yn awyddus iawn i gynnal a chynnig hyfforddiant i unigolion addas ac i gynnig datblygiad gyrfa arbennig i unigolion sydd âg awydd pendant i wneud gwahaniaeth i fywyd plant a phobl ifanc. Yn anad dim byddwch yn camu i rol arbenigol sy’n prysur ddatblygu yma yng Nglantaf ac a fydd yn fuan iawn yn tyfu o ran maint a dylanwad ym maes ADY arbenigol cyfrwng Cymraeg.
Gan fod Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i les a diogelwch pob plentyn, mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl diogelu plant a dau eirda llwyddiannus. Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Phennaeth Canolfan Ethni, Mrs Bethan Davies.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd-destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun 20 Ebrill 2026
Dyddiad dechrau’r swydd: 1 Medi 2026
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.