Swyddog Cyllid a Gweinyddol
Cytundeb 1 blwyddyn/Secondiad
(Gradd 5: 41wythnos / 37awr)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig ac effeithol i swydd Swyddog Cyllid a Gweinyddol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad a’r ddealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i ymholiadau gwahanol. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rhyng-bersonol da iawn i allu delio gydag amrywiaeth o sefyllfaoedd, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a’r gymuned ehangach.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau gweinyddol a threfniadaeth ardderchog, a’r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol neu gymleth. Mae’r gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm estynedig yn allweddol i’r rôl gan weithio’n agos iawn gyda’r Rheolwr Busnes a staff gweinyddol eraill, y tîm arwain ynghyd â staff eraill ar draws yr ysgol. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau fod materion yn cael sylw mewn da bryd a bod blaenoriaethau yn derbyn sylw teilwng mewn cyfyngder amser penodol. Byddwch yn gyfrifol o ddydd i ddydd am rheoli cyllidebau, sicrhau gwerth am arian a gofynion awdit a chyllid sy’n gofyn am gofnodion manwl gywir a chlir. Byddwch yn delio a rhychwant eang iawn o rhanddeiliaid ar draws cymuned yr ysgol gan sicrhau cyfathrebu cywir, trefniadaeth effeithiol a llyfn rediad yr ysgol. Gyda ymestyn darpariaeth yr ysgol i gynnwys timau arlwyo, byddwch yn gefnogaeth weinyddol a chyllidol gwerthfawr i sicrhau gwerth am arian a llyfn drosglwyddiad y busnes arlwyo i brif waith yr ysgol. Byddwch yn derbyn cefnogaeth barod yn eich gwaith gan y Rheolwr Busnes fydd yn cyfeirio a chefnogi llyfn rediad staff cefnogi yr ysgol, er lles a chynydd disgyblion Glantaf.
Rhan allweddol o’r swydd yw dealltwriaeth gadarn a sylweddol o brosesau cyllidol a gofynion awdit. Bydd elfennau o’r gwaith yn ymestyn i faes adnoddau dynol gan arwain a rheoli staff eraill, yn benodol y gwasanaeth arlwyo neu’r swyddfa flaen. Byddwch yn ogystal yn ymwneud â marchnata a hyrwyddo’r ysgol drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau er cynyddu incwm neu ledaenu enw da yr ysgol yn y gymuned ehangach.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol neu’r Rheolwr Busnes.
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.