Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes brwdfrydig i swydd o fewn yr Adran TGCh (Cytundeb Blwyddyn). Byddai’n ddymunol petai’r ymgeisydd llwyddiannus yn abl i gynnig ail bwnc i gwricwlwm yr ysgol, a’i nodi fel rhan o’ch cais am y swydd hon.
Mae’r adran yn llwyddiannus a blaengar ar draws yr ysgol gan edrych ymlaen i ymestyn ymhellach ar ein darpariaeth wrth i’n harbenigedd fel ysgol gynyddu drwy’r penodiad hwn. Ymhellach mae’r ysgol wedi buddsoddi’n sylweddol mewn caledwedd TGCh a hynny er mwyn uwchraddio’r ddarpariaeth i staff a disgyblion. Mae taith yr ysgol yn y maes hwn, o ran hyder ac awydd staff i ymgymryd â mwy o dechnoleg i hybu addysgu yn amlwg iawn, ac yn hyn o beth edrychwn am ymgeisydd sy’n fodlon mentro a datblygu yn y maes gyda chefnogaeth gadarn yr adran.
Yn ogystal mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o Dechnoleg Ddigidol mewn cyd-destun allgyrsiol. Mae’r adran yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau a chlybiau allgyrsiol a byddai disgwyl i’r ymgeisydd llwyddianus daflu ei hun yn egniol i’r gwaith yma, ac felly, mae sgiliau gwaith tîm yn allweddol.
Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut bydd gwersi y cyfnod clo yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried datblygiad Cwricwlwm i Gymru a’r modd mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn gyfle arbennig i ddatblygu gwaith dysgwyr ac athrawon yn y blynyddoedd i ddod.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, Mawrth 4ydd
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 1af 2024
Safeguarding Statement:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.