Swydd Cynorthwy-ydd Dosbarth / Dysgu
(llawn amser)
Graddfa 3 Pwyntiau 3-6
(pro rata 30.8 awr yr wythnos / 39 wythnos)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Gynnal Dysgu ac yn ein Canolfan Ddysgu Arbenigol, Canolfan Glantaf. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn timau cynnal sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r Adran Gynnal Dysgu yn cynorthwyo nifer o ddisgyblion i sicrhau fod eu mynediad at addysg yn rhwydd ac yn llifo yn fwy hwylus gyda chymorth oedolyn ac arweiniad unigol. Mae rhai disgyblion â thrafferthion sgiliau sylfaenol, megis llythrennedd neu rifedd a disgyblion eraill angen cymorth corfforol neu emosiynol. Mae disgyblion sy’n derbyn cymorth o fewn yr adran yn gwerthfawrogi’r gynhaliaeth ac yn gwneud cynnydd da gydag arweiniad ac yn llwyddo i ymdopi a llwyddo gyda gofynion y cwricwlwm.
Wrth weithio o fewn Canolfan Glantaf, byddwch yn ymuno a thîm profiadol ac arbenigol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd cartrefol o fewn cymuned Glantaf. Byddwch yn gwerthfawrogi gweithio’n agos gyda disgyblion hwyliog a chymdeithasol sydd yn gweithio ar lefelau is y cwricwlwm, ond sydd yn allblyg, brwdfrydig a chreadigol mewn cyd-destunau amrywiol.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa gyffrous ac unigryw.
Yn ogystal mae’r adrannau yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y tu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy’n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd-destun cymuned yr ysgol.
Safeguarding Statement:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.