Athro/Athrawes Addysg Gorfforol
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro / athrawes frwdfrydig ac ymroddgar i swydd addysgu yn yr Adran Addysg Gorfforol, llawn amser a parhaol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i addysgu sawl camp o fewn y pwnc.
Dyma adran flaengar, fyrlymus, llawen a llwydiannus sy’n llwyddo i ysbrydoli disgyblion o fewn campau a gweithgaredd corfforol o bob math. Mae’r adran yn hynod amlwg ar hyd cymuned yr ysgol gan gyfrannu’n allweddol at les a iechyd plant, pobl ifanc a staff, cymuned yr ysgol.
Mae’r Adran yn hynod lwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd da i astudio o fewn y pwnc, ble mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ardderchog. Yn ogystal mae'r adran yn cynnig cyrsiau o fewn Chwaraeon ac Awyr Agored sydd yn datblygu yn llwybr galwedigaethol poblogaidd. O ystyried yr amrywiaeth o fewn yr adran a’r cyrsiau sydd ar gael, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Nodwedd arbennig o’r adran yw’r disgwyliadau a’r safonau cyson uchel o ran gweithgaredd allgyrsiol a chyfleoedd i ddisgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o athrawon ymroddgar dros ben sydd yn cynnig cyfleoedd amrywiol mewn sawl camp i ddisgyblion sy’n cyflawni ar lefel uchel iawn. Yn benodol mae bechgyn a merched yr ysgol wedi cystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol amrywiol ac wedi cael llwyddiannau nodedig. Yn ogystal mae’r adran yn cyfrannu at weithgaredd a blaengareddau ysgol gyfan i hyrwyddo cyswllt cynradd, bywyd iach a datblygu hyfforddwyr ifanc.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellir ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: 10yb Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026
Dyddiad dechrau y swydd: 1 Medi 2026
Safeguarding Statement:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.