Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro brwdfrydig i swydd rhan amser neu lawn amser o fewn yr adrannau Drama a Saesneg (cytundeb hyd at Awst 2027 yn y man cyntaf). Byddwn yn hyblyg i ystyried pynciau eraill o ddiddordeb o fewn yr ysgol ond byddai prif gyfraniad i’r adrannau uchod. Byddwn hefyd yn hyblyg i gynnig swydd rhan amser yn ol dymuniad neu i ystyried cytundeb tymor benodol os yw hyn o ddiddordeb.
Mae’r ddwy adran yn hynod lwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd da i astudio’r pynciau ar y safon uchaf. Yn sicr mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn dda dros ben. Yn hyn o beth, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyng bersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Yn ogystal mae’r adran Ddrama yn cynnig cyrsiau Astudiaethau Cyfryngau yn CA4 a CA5 gan ddenu niferoedd uchel a chanlyniadau rhagorol dros gyfnod estynedig o flynyddoedd. Byddai diddordeb a phrofiad i gyfrannu i’r meysydd hynny hefyd o ddiddordeb penodol. Mae’r adrannau yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o lenyddiaeth fyw drwy weithdai ac ymweliadau â’r theatr ac mewn cystadlaethau sirol a chenedlaethol o ran siarad cyhoeddus a chystadlaethau llenyddol. Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd academaidd ac allgyrsiol yr adrannau egniol rhain.
Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut bydd darpariaeth arloesol a chyffrous yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, 9 Tachwedd 2026
Dyddiad dechrau y swydd: Ionawr 2027 neu yn fuan ar ôl hyn
Safeguarding Statement:
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.