Arolygydd Gwersi

School
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Location
Ystum Taf, Cardiff
Contract Type
Permanent
Hours
Term Time
Salary
Gradd 5 £25,979-£29,777 pro rata
Start Date
As Soon As Possible
Expires
14th May 2024 11:59 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1418745
Start Date
As Soon As Possible
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: Parhaol
  • Job ID: 1418745

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dyma gyfle arbennig i weithio mewn tîm o staff sy’n gweithio’n broffesiynol gan sicrhau y safonau addysgol gorau posibl.

Nod y Swydd:

• I sicrhau arolygaeth o dasgau sydd wedi’u trefnu / paratoi eisoes mewn dosbarthiadau ble mae’r athro arferol yn absennol.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

• Arolygu gwaith disgyblion fel oedolyn cyfrifol ar eich pen eich hun mewn dosbarthiadau o blant o oedrannau rhwng 11 a 17 mlwydd oed.

• Sicrhau fod disgyblion yn gallu parhau i ddysgu mewn awyrgylch dda tra mae’r athro arferol yn absennol.

• Ymateb yn gadarnhaol i ddisgyblion wrth drafod y gwaith a osodir.

• Delio â sefyllfaoedd allai godi yn briodol, gan ddilyn trefn a strwythurau ysgol gyfan.

• Casglu gwaith gorffenedig a’i drosglwyddo i’r athro / arweinydd adran priodol.

• Gwahaniaethu tasgau yn briodol i sicrhau ei fod o fewn cyrraedd i ddisgyblion y dosbarth.

• Arolygu arholiadau pan fo gofyn

• Yn ystod amser pan na fydd angen arolygu, gweithio gydag adrannau neu gyda staff gweinyddol i gwblhau gwaith sy’n ymwneud â’r ysgol.

• I ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol

Cymhwysterau a phrofiad:

• Sgiliau rhyngbersonol ardderchog

• Sgiliau rheolaeth dosbarth da

• Dealltwriaeth am strategaethau i drin â phobl ifanc a phlant yn deg, broffesiynol a chyson i sicrhau amgylchedd ddiogel a threfnus o fewn yr ystafell ddosbarth ac mewn sefyllfaoedd un i un.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r gweledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd plant.

Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous. Byddai’r swydd yn ddelfrydol ar gyfer athro newydd gymhwyso i ymgymryd â swydd llawn amser o fewn ysgol.

Gan fod Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i les a diogelwch pob plentyn, mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl diogelu plant a dau eirda llwyddiannus. Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd.


Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf