Arweinydd yr Adran Addysg Grefyddol

School
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Location
Ystum Taf, Cardiff
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
Graddfa Cyflog Athrawon + CAD2c
Start Date
1st September 2024
Expires
7th May 2024 11:59 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1416727
Start Date
1st September 2024
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: Parhaol
  • Job ID: 1416727

Swydd Arweinydd yr Adran Addysg Grefyddol

CAD 2c

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro brwdfrydig ac ymroddgar i swydd arwain, barhaol, llawn amser yr Adran Astudiaethau Crefydd a Moeseg. Mae hon yn rôl bwysig i ddatblygu ar y cyd gydag arweinwyr eraill, adran a maes gwricwlaidd o ddiddordeb ac arbenigedd allweddol o fewn yr ysgol. Byddai posibilrwydd o gyfrifoldeb ehangach dros agweddau o gwricwlwm lles yn bosib ar gyfer ymgeisydd addas.

Mae’r Adran yn llwyddiannus a phoblogaidd yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd da iawn i astudio o fewn y pwnc, ble mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhagorol. Mae hyn yn golygu arwain tim o staff addysgu profiadol a brwdfrydig i sicrhau bod disgyblion wedi eu cymell yn dda ac yn llwyddo gyda chanlyniadau arbennig. Bydd ymrwymiad i weld y pwnc yn cadw a datblygu ymhellach yn CA4 a CA5 yn flaenoriaeth glir.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Mae’r cydweithio o fewn maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau hefyd yn gryfder nodedig, ble mae’r adrannau yn llwyddo i weithio’n gydlynus ac effeithiol i gyfoethogi profiadau disgyblion a’u cymell yn eu dysgu. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw. Er fod y swydd hon yn fwy addas i athrawon gyda phrofiad yn y maes, byddwn â diddordeb hefyd mewn ymgeiswyr cryf, sydd yn fodlon derbyn sialens arweiniol o fewn ysgol sy’n cynnig hyfforddiant, cynhaliaeth ac arweiniad bellach.

Yn sgîl taith yr ysgol, rydym yn frwdfrydig i weld sut gallwn ddatblygu ymhellach ar gyfer ein plant a phobl ifanc yn sgil datblygiadau Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn allweddol i ddatblygu profiadau addysgol gwerthfawr i ddatblygu galluoedd, brwdfrydedd a dealltwriaeth disgyblion yn gydlynus ac yn greadigol i’r dyfodol.

Nodwedd arbennig o’r ysgol yw’r disgwyliadau a’r safonau cyson uchel o ran gweithgaredd allgyrsiol a chyfleoedd i ddisgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o athrawon ymroddgar dros ben sydd yn cynnig cyfleoedd amrywiol mewn sawl maes i ddisgyblion sy’n cyflawni ar lefel uchel iawn. Yn benodol mae bechgyn a merched yr ysgol wedi cystadlu mewn sialensiau cenedlaethol sydd wedi dyfnhau a chyfoethogi eu deall o berthnasedd eu dewis pwnc i fywyd cyfoes.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans.

Proses Ymgeisio

Gellir ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mawrth, 7 Mai 2024

Dyddiad tebygol ar gyfer cyfweliad: 13 Mai 2024

Dyddiad dechrau y swydd: 1 Medi 2024

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf