Athro / Athrawes Cyffredinol
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro brwdfrydig i swydd rhan amser neu lawn amser gyda hyblygrwydd pynciau ar draws y cwricwlwm (cytundeb blwyddyn yn y man cyntaf). Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i addysgu o fewn CA3 neu hyd at lefel TGAU mewn o leiaf dau bwnc. Byddwn yn hyblyg iawn i ystyried pynciau amrywiol ar draws y cwricwlwm, ond byddai gallu cyfrannu i feysydd adrannau craidd yr ysgol o ddiddordeb arbennig. Byddwn hefyd yn hyblyg i gynnig swydd rhan amser yn ol dymuniad neu i ystyried cytundeb tymor benodol os yw hyn o ddiddordeb.
Mae’r ysgol yn falch o adrannau cefnogol, effeithiol a llwyddiannus ar draws ystod y cwricwlwm, a byddwch yn mwynhau cefnogaeth dda gan arweinwyr a gan eich cyd-athrawon. Mae’r swydd hon yn deillio yn bennaf yn y twf mewn niferoedd ar draws yr ystod oedran, a’r hyblygrwydd sydd ei angen i greu dosbarthiadau llai a darparu cynlluniau ymyrraeth a chefnogi eang. Wrth ymuno a Glantaf byddwch yn ymuno a thim o staff gyda safonau uchel a chefnogaeth ardderchog i ddatblygu ymhellach yn eich gyrfa. Yn hyn o beth, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyng bersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Mae adrannau yn frwd iawn i roi profiadau byw a chyfoethog o fewn eu pynciau a hynny drwy weithdai, ymweliadau allgyrsiol, a theithiau. Edrychwn felly, am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd academaidd ac allgyrsiol yr adrannau egniol rhain.
Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut bydd darpariaeth arloesol a chyffrous yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried datblygiad Cwricwlwm i Gymru a’r modd mae sgiliau newydd yn gallu hyrwyddo a datblygu galluoedd ieithyddol ein disgyblion yn y blynyddoedd i ddod.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, 13 Mai 2024
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2024
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.