Swydd: Athro / Athrawes
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Glantaf am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Y pynciau canlynol yw'r rhai sy'n flaenoriaeth i ni;
ADY dwys a chymleth / Awtistiaeth
Cymraeg
Saesneg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Technoleg & TGCh
Dyniaethau
Celf Mynegiannol
Mae Ysgol Glantaf yn ysgol uchel ei pharch ac â thraddodiad cryf o gyfraniad a pherfformiad cadarn yn y Brifddinas, gan sicrhau’r adysg orau i’w phlant a’i phobl ifanc. Mae yma adrannau ardderchog sy’n cymell a hybu disgyblion i ymgyrraedd yn uwch, a phatrwm sefydlog o ddarparu darpariaeth a chynhaliaeth broffesiynol barhaus i’w staff. Rydym yn cryfhau ar ein cysylltiadau pontio gyda ein ysgolion cynradd ac yn datblygu ymhelach ein cysylltiadau gweithio gydag ysgolion eraill i gynnal a chefnogi’r sector. Dyma gyfle ardderchog i ymuno â thîm addysgu ymroddgar, cefnogol ac arbenigol i’ch cynnal drwy gydol y flwyddyn trosglwyddo. Rydym yn falch o natur gefnogol ein ysgol a’r gofal arbennig bugeiliol sydd gyda ni yng Nglantaf.
Mae’r cynllun hwn yn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Glantaf i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Met Caerdydd byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
• Cynllunio gwersi
• Asesu, marcio ac adborth
• Rheolaeth ddosbarth
• Datblygu dycnwch
• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Proses ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy'r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen cais erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 12 Ebrill 2026.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau'r Pasg.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar
hwb.gov.wales/gwella-ysgolion-ac-arweinyddiaeth/datblygu-r-gymraeg-yn-eich-ysgol/cynllun-pontio-cynradd-i-uwchradd-cyfrwng-cymraeg/#proses-recriwtio-a-dethol
neu os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.