Swydd: Athro / Athrawes Drama a Chyfryngau
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro brwdfrydig i swydd llawn amser, parhaol o fewn yr adran Ddrama a Chyfryngau .
Mae’r adran yn hynod lwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd da i astudio’r pynciau ar y safon uchaf. Yn sicr mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn dda dros ben. Yn hyn o beth, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyng bersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Mae’r adran Ddrama yn cynnig cyrsiau Astudiaethau Cyfryngau yn CA4 a CA5 gan ddenu niferoedd uchel a chanlyniadau rhagorol dros gyfnod estynedig o flynyddoedd. Byddai diddordeb a phrofiad i gyfrannu i’r meysydd hynny hefyd o ddiddordeb ynghyd a chyrsiau dawns a chelfyddydau perfformio sydd wedi eu sefydlu yn ddiweddar. Mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o theatr fyw drwy weithdai ac ymweliadau â pherformiadau mewn theatrau. Yn ogystal dyma adran, o fewn cyfadran Celfyddydiau Mynegiannol sy’n eithriadol brysur mewn clybiau allgyrsiol, cyngherddau, perfformiadau a chystadlaethau ac Eisteddfodau. Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd academaidd ac allgyrsiol yr adrannau egniol rhain.
Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut bydd darpariaeth arloesol a chyffrous yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried datblygiad Cwricwlwm i Gymru a’r modd mae sgiliau newydd yn gallu hyrwyddo a datblygu galluoedd ieithyddol ein disgyblion yn y blynyddoedd i ddod.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: 10yb, Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026
Dyddiad dechrau y swydd: 1 Medi 2026
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.