Swydd: Athro / Athrawes Gwyddoniaeth
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes frwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Wyddoniaeth (cytundeb blwyddyn yn y man cyntaf). Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i ddysgu Ffiseg ar gyfer TGAU / Safon Uwch.
Mae’r adran yn llwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan sicrhau fod y sylfaen a osodir yn CA3 yn annog a herio disgyblion i safonau cyson uchel. Dyma adran sy’n falch iawn o’r niferoedd uchel sy’n dewis astudio Gwyddoniaeth Driphlyg yn TGAU ac yn parhau i astudio’r maes gwyddonol fel pynciau Safon Uwch yn y Chweched Dosbarth, ble mae’r canlyniadau dros gyfnod estynedig wedi bod yn arbennig o dda. Mae’r ysgol yn frwdfrydig i ymestyn cyfleoedd a chyrsiau o fewn y maes i’r dyfodol gan ehangu cyfleoedd i addysgu yn CA5 a’r cyrsiau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y Chweched. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Mae’r adran yn frwdfrydig i gynnig profiadau gwerthfawr yn maes Gwyddoniaeth ac yn pwysleisio’r ehangder cyfleoedd sydd o ran dewis llwybr astudio a gyrfa o fewn y gwyddorau. Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac effeithiol o fewn yr adran, sy’n hwyluso gwaith ei gilydd mewn ysbryd cymhellgar a brwdfrydig. Yn ogystal mae'r adran yn flaengar iawn i sicrhau profiadau allgyrsiol sy'n herio a chyfoethogi profiadau addysgol y disgyblion. Byddai gallu cyfrannu at y ddarpariaeth eang hon yn fantais arbennig.
Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut byddwn yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried datblygiad Cwricwlwm i Gymru a’r modd mae sgiliau newydd yn gallu hyrwyddo a datblygu galluoedd ein disgyblion yn y blynyddoedd i ddod.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad cau: Hanner Dydd, Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 1 2026
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.