Athro / Athrawes Gwyddoniaeth

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Lleoliad
Ystum Taf, Cardiff
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athrawon
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
3rd Chwefror 2026 10:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1529503
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • Hyd y contract: Parhaol
  • ID swydd: 1529503

Swydd: Athro / Athrawes Gwyddoniaeth

Graddfa Cyflog Athrawon

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/awes frwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Wyddoniaeth, cytundeb parhaol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i addysgu dosbarthiadau CA3 a CA4 yn y pwnc. Byddai arbenigedd ym maes Bioleg/Cemeg yn fwy perthnasol i'r rôl hon.

Mae’r adran yn llwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan sicrhau fod y sylfaen a osodir yn CA3 yn annog a herio disgyblion i safonau cyson uchel. Dyma adran sy’n falch iawn o’r niferoedd uchel sy’n dewis astudio Gwyddoniaeth Driphlyg yn TGAU ac yn parhau i astudio’r maes gwyddonol fel pynciau Safon Uwch yn y Chweched Dosbarth, ble mae’r canlyniadau dros gyfnod estynedig wedi bod yn ardderchog. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Mae’r adran yn frwdfrydig i gynnig profiadau gwerthfawr yn maes Gwyddoniaeth ac yn pwysleisio’r ehangder cyfleoedd sydd o ran dewis llwybr astudio a gyrfa o fewn y gwyddorau. Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac effeithiol o fewn yr adran, sy’n hwyluso gwaith ei gilydd mewn ysbryd cymhellgar a brwdfrydig. Yn ogystal mae'r adran yn flaengar iawn i sicrhau profiadau allgyrsiol sy'n herio a chyfoethogi profiadau addysgol y disgyblion. Byddai gallu cyfrannu at y ddarpariaeth eang hon yn fantais arbennig.

Mae’r ysgol yn edrych ymlaen gyda brwdfrydedd i weld sut byddwn yn gallu gwella ac addasu ein ffyrdd o ddarparu ac addysgu ein pobl ifanc i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried datblygiad Cwricwlwm i Gymru a’r modd mae sgiliau newydd yn gallu hyrwyddo a datblygu galluoedd ein disgyblion yn y blynyddoedd i ddod.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.

Dyddiad Cau: 10yb, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2026

Dyddiad dechrau y swydd: Medi 1af 2026

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.