Gwahoddwn geisiadau gan raddedigion deinamig â chymwysterau da i ymuno â'n tîm Saesneg brwdfrydig, ymroddgar. Bydd gofyn i ymgeisydd addas ddysgu Saesneg ar bob lefel, o Flwyddyn 7 hyd at Safon Uwch. Mae’r swydd yn cynnig y cyfle i gyfrannu at ddatblygiadau cyffrous o fewn yr adran lewyrchus hon. Mae hon yn swydd rhan amser (un dydd yr wythnos), dros dro i ymgeisydd addas.
Mae’r Adran yn hynod lwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd da i astudio Saesneg Llenyddiaeth, ble mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ardderchog. Yn ddiweddar dechreuwyd sefydlu cwrs Saesneg Iaith yn ogystal a gwelwyd twf yn y niferoedd ac ymateb brwdfrydig gan ddisgyblion. Byddai’r gallu a brwdfrydedd i gyfrannu at unrhywun o’r ddau gwrs o fewn Safon Uwch yn ddymunol iawn. Yn hyn o beth, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyng bersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw fel aelod o adran fywiog sydd yn cefnogi unigolion i arbrofi ac arloesi wrth addysgu’r iaith mewn modd gyfoes a chymhellgar.
Yn ogystal mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o lenyddiaeth fyw drwy weithdai ac ymweliadau â’r theatr ac mewn cystadlaethau sirol a chenedlaethol o ran siarad cyhoeddus a chystadlaethau llenyddol. Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd academaidd ac allgyrsiol yr Adran.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2025
Dyddiad dechrau y swydd: 5 Ionawr 2026
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.