Athro/Athrawes Mathemateg.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes Mathemateg ymroddedig a chymwys i ymgymryd â swydd rhan amser (tri neu bedwar diwrnod yr wythnos) o fis Medi 2026. (Cytundeb hyd at Ebrill 2027 yn y man cyntaf).
Gwahoddir ceisiadau gan raddedigion deinamig â chymwysterau da i ymuno â'n tîm Mathemateg brwdfrydig ac ymroddgar. Croesewir ceisiadau gan athrawon profiadol a newydd gymhwyso. Mae’r swydd yn cynnig y cyfle i gyfrannu at ddatblygiadau cyffrous o fewn yr adran lewyrchus hon.
Mae’r adran Fathemateg wedi dathlu ei chanlyniadau ardderchog dros y blynyddoedd ac hefyd yn falch o’r niferoedd sylweddol sy’n astudio'r pwnc yn y chweched dosbarth. Cyniga'r adran amrywiaeth o brofiadau i’n disgyblion, ym mhob cyfnod allweddol. Gweledigaeth yr adran yw cyfoethogi profiadau addysgol ein disgyblion ac rydym yn meddu ar y safonau uchaf. Rydym yn ymfalchïo yn ein hymwybyddiaeth o addysgeg a dulliau i hybu ac ysbrydoli ein disgyblion. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus rannu’r weledigaeth hon trwy rannu ei angerdd am y pwnc a thuag at addysgu gyda’r disgyblion a’r adran.
Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swyddi rhain drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd.
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025
Dyddiad cychwyn: 1 Medi 2026
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.