Cynorthwy-ydd Dosbarth / Dysgu Gradd 4

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Lleoliad
Ystum Taf, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn, Adeg y tymor yn unig
Cyflog
Gradd 4 Pwyntiau 6-11 + SEN
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
Yn dod i ben
6th Mehefin 2025 11:59 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1488376
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 1 blwyddyn yn y man cyntaf
  • ID swydd: 1488376

Swydd Cynorthwy-ydd Dosbarth / Dysgu

Gradd 4 Pwyntiau 6-11 + SEN

(pro rata 30.8 awr yr wythnos / 39 wythnos)

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swydd llawn amser yn ein Canolfan Ddysgu Arbenigol, Canolfan Glantaf. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.

Wrth weithio o fewn Canolfan Glantaf, byddwch yn ymuno a thim profiadol ac arbeingol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd gartrefol o fewn cymuned Glantaf. Byddwch yn gwerthfawrogi gweithio’n agos gyda disgyblion hwyliog a chymdeithasol sydd yn gweithio ar lefelau is y cwricwlwm, ond sydd yn allblyg, brwdfrydig a chreadigol mewn cyd-destynau amrywiol.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Byddwch yn Addasu a pharatoi adnoddau a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.

Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.

Yn ogystal mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y thu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy’n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.

Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi rhain neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Matthew Evans.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swyddi rhain drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.