Cynorthwy-ydd Dosbarth Gradd 4

Employer
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Location
Ystum Taf, Cardiff
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time, Term Time
Salary
Gradd 4 Pwyntiau 6-11 + SEN
Start Date
1st September 2026
Expires
25th May 2026 10:00 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1548810
Start Date
1st September 2026
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: Parhaol
  • Job ID: 1548810

Swydd Cynorthwy-ydd Dosbarth (x2)

Gradd 4 Pwyntiau 6-11 + SEN

(pro rata 32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos)

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swydd llawn amser, parhaol (x2 swydd) yn ein Canolfan Ddysgu Arbenigol, Canolfan Ethni. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.

Wrth weithio o fewn Canolfan Ethni, byddwch yn ymuno a thim profiadol ac arbeingol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd gartrefol o fewn cymuned Glantaf. Byddwch yn gwerthfawrogi gweithio’n agos gyda disgyblion hwyliog a chymdeithasol sydd yn gweithio ar lefelau is y cwricwlwm, ond sydd yn allblyg, brwdfrydig a chreadigol mewn cyd-destynau amrywiol.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Byddwch yn Addasu a pharatoi adnoddau a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.

Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.

Yn ogystal mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y thu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy’n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.

Os hoffech fwy o fanylion am y swyddi rhain neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swyddi rhain drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf