Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac egnïol i swydd Derbynnydd / Cynorthwy-ydd Gweinyddol i gymuned yr ysgol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad a’r dealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd ac ymholiadau gwahanol. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rhyng-bersonol ardderchog i allu delio gyda amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, disgyblion, staff, rhieni, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a’r gymuned ehangach.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol a chymleth gan gynnwys unigolion sy’n wynebu trafferthion neu anhawsterau. Mae’r gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm estynedig yn allweddol i’r rôl gan weithio’n agos gyda staff gweinyddol eraill, y tîm arwain a thîm cynnydd yr ysgol ynghyd â gwasanaethau cefnogi a chynnal allanol. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau fod materion yn cael sylw mewn da bryd a fod blaenoriaethau yn derbyn sylw teilwng mewn cyfyngder amser penodol. Gan fod cyfathrebu a chyswllt gyda rhieni yn rhan allweddol o’r swydd, disgwylir i’r swyddog gymryd rôl flaenllaw wrth gyfathrebu yn glir ac yn gyson a bod yn wyneb personol i ateb ymholiadau ac i dawelu pryderon. Disgwylir i’r unigolyn gymryd cyfrifoldeb llawn dros ddelwedd a diwyg y dderbynfa a mannau croeso’r ysgol gan sicrhau fod derbyniad cyfeillgar cynnes i ymwelwyr a bod y dderbynfa yn lân, broffesiynol a deniadol.
Yn wyneb twf a newid o fewn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf, edrychwn am unigolyn brwdfrydig sydd â dealltwriaeth gadarn dros flaenoriaethau’r ysgol a dros y Gymraeg.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.