Dirprwy Arweinydd y Ganolfan Adnoddau Arbenigol

Employer
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Location
Ystum Taf, Cardiff
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
Graddfa Cyflog Athrawon CAD: 2b + ADY1
Start Date
1st September 2026
Expires
28th January 2026 11:59 AM
Contract Type
Permanent
Job ID
1528485
Start Date
1st September 2026
  • Contract Type :Permanent
  • Contract Length: Parhaol
  • Job ID: 1528485

Dirprwy Arweinydd y Ganolfan Adnoddau Arbenigol

(Anghenion dwys & Awtistiaeth)

CAD: 2b + ADY1

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Dirprwy Arweinydd y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dyma gyfle unigryw i ymuno ag Ysgol a Chanolfan lwyddiannus iawn o fewn ein Prifddinas sydd ag enw da o fewn ei chymuned ac sy’n gyson ei darpariaeth safonol cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc y dalgylch. Mae hon yn gyfle arbennig i ymuno a grŵp o staff prysur, brwdfrydig ac egnïol a gyda thîm ADY arbenigol ardderchog sy’n gweithio’n galed i sicrhau’r gefnogaeth orau i ddisgyblion a chymuned yr ysgol. Mae buddsoddiad sylweddol ar y gweill i drawsnewid ein darpariaeth a gwahoddwn unigolion egniol sydd â gweledigaeth gref am addysg gynhwysol i ymuno â ni mewn cyfnod mor gyffrous!

Mae’r Ganolfan wedi ei sefydlu’n gadarn iawn ac yn darparu cefnogaeth addysgol a bugeiliol o’r radd flaenaf i’r 50 disgybl 11-19mlwydd oed sydd ag anghenion addysgol dwys neu anghenion ym maes awtistiaeth. Yn benodol dyma Ganolfan fywiog, fyrlymus, llawen a chroesawgar sydd wrth galon cymuned Glantaf. Mae naws greadigol, ofalgar a chynhaliol yr adran yn pefrio drwy ei gweithgaredd, a’i disgyblion yn mwynhau trawsdoriad eang o brofiadau unigol a chyfoethog ochr yn ochr â disgyblion eraill Glantaf.

Rydym yn eithriadol o ffodus o’n tîm ardderchog a phrofiadol iawn o athrawon a chynorthwy-wyr sy’n gweithio’n gydlynus a chefnogol i gynnal anghenion unigol pob un disgybl. Un nodwedd arbennig o’r twf a’r datblygiad diweddar yw’r cyfleoedd a’r datblygiad i staff yr ysgol, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar er mwyn datblygu staff ymhellach i ddelio’n llwyddiannus a thaith a thwf disgyblion yr ysgol i’r dyfodol. Yn fwy na dim, byddwch yn arweinydd ar dîm o unigolion llawn cymhelliant, hwyliog a brwdfrydig, sy’n cyd-weithio’n rhwydd ac effeithiol er lles a datblygiad unigolion arbennig iawn.

Edrychwn ymlaen i fuddsoddiad sylweddol i’r Ganolfan mewn adeilad a chyfleusterau ardderchog 21ain Ganrif dros y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn trawsnewid darpariaeth cyfredol y Ganolfan a byddwn yn croesawu eich gweledigaeth a’ch cyfraniad yn nyddiau sefydlu ein canolfan newydd arloesol yma yng Nglantaf Ymhellach, mae ein Canolfan Awtistiaeth ochr yn ochr a’r Ganolfan yn darparu cymorth a chefnogaeth arbenigol i’n disgyblion.

Rhan allweddol o’r rôl yw cyfathrebu gydag ein rhieni, ein darpar rhieni ac eraill i sicrhau bod darpariaeth yn holistig ac yn ateb gofynion unigryw pob plentyn. Rydym yn falch iawn o’r berthynas agored, gynhaliol a chynnes sy’n bodoli rhyngddom a’n teuluoedd a bydai cryfhau a datblygu’r elfen werthfawr hon yn elfen allweddol o’r swydd.

Edrychwn am unigolyn gweithgar, cadarnhaol a phrofiadol i gamu i rôl allweddol hon. Byddwn yn awyddus iawn i gynnal a chynnig hyfforddiant i unigolion addas ac i gynnig datblygiad gyrfa arbennig i unigolion sydd âg awydd pendant i wneud gwahaniaeth i fywyd plant a phobl ifanc. Gwahoddwn geisiadau gan ymarferwyr ac arweinwyr o fewn ADY sydd â thrawsdoriad eang o brofiadau o fewn y maes neu o arwain mewn cyfnodau allweddol gwahanol (cynradd / uwchradd neu pob oed) gan y gallai hyn weddu i’r dim i anghenion presennol ein disgyblion. Yn anad dim, byddwch yn camu i rôl ganolog a phwysig ym mywydau ein disgyblion arbennig ac unigryw yng Nghanolfan Adnoddau Arbennig Glantaf, ac edrychwn ymlaen â brwdfrydedd i glywed eich syniadau a’ch gweledigaeth ar gyfer ein cyfnod nesaf.

Byddwch yn gweithio’n strategol a chlos gyda Arweinydd y Ganolfan, y Tîm Arwain a’r Corff Llywodraethol a hynny er mwyn sicrhau gofal, addysg a darpariaeth effeithiol. Byddwch yn gweithio’n agos ac yn derbyn cefnogaeth gan Arweinydd y Ganolfan ynghyd a Swyddogion Arbenigol y sir ym meysydd amrywiol ADY ac anghenion dwys. Yn hyn o beth, mae delio yn effeithiol a chadarnhaol gyda phartneriaid allweddol yn rhan bwysig o’r rôl.

Gan fod Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i les a diogelwch pob plentyn, mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl diogelu plant a dau eirda llwyddiannus. Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans yn yr ysgol.

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd-destun cymuned yr ysgol.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd, 28 Ionawr 2026

Dyddiad dechrau’r swydd: 1 Medi 2026

Attachments

Safeguarding Statement:

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf