Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac egnïol i swydd Swyddog Cymorth Gweinyddol i gymuned yr Ysgol. Bydd yr unigolyn yn ddarparu cymorth gweinyddol cyffredinol i’r Tîm Gweinyddu ac uwch Dim Arwain yr Ysgol, yn ogystal â chefnogi’r Swyddog Arholiadau. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad a’r ddealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd ac ymholiadau gwahanol. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol ardderchog i allu delio gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, disgyblion, staff, rhieni, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a’r gymuned ehangach.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol a chymhleth gan gynnwys unigolion sy’n wynebu trafferthion neu anawsterau. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau fod materion yn cael sylw mewn da bryd a bod blaenoriaethau yn derbyn sylw teilwng mewn cyfyngder amser penodol.
Yn wyneb twf a newid o fewn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf, edrychwn am unigolyn brwdfrydig sydd â dealltwriaeth gadarn dros flaenoriaethau’r ysgol a dros y Gymraeg.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Mercher 7 Hydref 2026
Dyddiad dechrau y swydd: Cyn gynted â phosibl
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.